Beth yw Amgylchedd Cymru?
Partneriaeth o fudiadau yn y sector gwirfoddol yw Amgylchedd Cymru, wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy gefnogi ac annog gwaith gwirfoddol i wella a gwarchod amgylchedd Cymru.
Y partneriaid creiddiol sy’n rhan o’r fenter yw Cadwch Gymru'n Daclus, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Cylch, WCVA, Groundwork Wales a Cynnal Cymru-Sustain Wales.
WCVA yw Partner Gweinyddol y fenter. Nhw sy'n gyfrifol am ddarparu'r fframwaith gweinyddol ac ariannol ar gyfer Amgylchedd Cymru ac am gyflogi'r Tîm Gweinyddol.
Gwaith y Tîm o Swyddogion Datblygu yw rhoi cyngor a chymorth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Mae pob prosiect a gefnogir gan Amgylchedd Cymru yn derbyn Swyddog Datblygu dynodedig sy'n aros yn bwynt cyswllt parhaus.
Mae Amgylchedd Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy bump o wahanol ffrydiau grant i gefnogi grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sydd yn ymgymeriad prosectiau ymarferol ac yn hyrwyddo un neu mwy o'r amcanion canlynol:
- gwneud gwelliannau cynaliadwy i'r amgylchedd yng Nghymru drwy brosiectau ymarferol;
- gwella dealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd drwy wasanaethau gwybodaeth, addysg a chynghori;
- helpu i greu prosiectau amgylcheddol newydd sydd hefyd yn rhoi cyfle i gymunedau a mudiadau gwirfoddol gyfrannu at gwrdd eu hanghenion cymdeithasol ac economaidd;
- cefnogi a hyfforddi staff a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau uchod.

